Tra’n chwilio trwy gofrestrau plwyf Llanbeblig yn ddiweddar, deuthum ar draws cofnod bedydd merch o’r enw Isabel Salvage a fedyddiwyd ar y trydydd o Fawrth 1886. Merch ydoedd i John a Sarah Ann Salvage. Roedd yr enw yn un anghyffredin, ond yr hyn a ddaliodd fy sylw yn hytrach na’r enw oedd cyfeiriad y teulu, sef Pontrhythallt, Llanrug. Pam tybed roedd teulu o Lanrug am fedyddio eu merch fach yn Llanbeblig? Tybed ai oherwydd mai Saeson oeddent, ac mai yng Nghaernarfon yn unig yr oedd gwasanaethau Saesneg yn cael eu cynnal bryd hynny? Roedd y tad yn cael ei ddisgrifio fel “gamekeeper”, ond sut fath o gipar fyddai’n debygol o fyw ym Mhontrhythallt yn y cyfnod hwn?
Bu’n rhaid chwilio’r gwahanol gyfrifiadau i wybod mwy am y teulu, ond doedd dim son amdanynt ym mhlwyf Llanrug. Dyna roi cynnig ar blwyf Llanddeiniolen, gan fod Pontrhythallt yn rhannol yn y plwyf hwnnw hefyd, a’u cael yn byw yn y Ship, ar gongl y lôn fach sy’n arwain am Graig y Dinas. Yn 1891 roedd gan John Salvage bedwar o blant, ac yr oedd plwyfi genedigol y teulu yn dangos fel roedd y tad wedi symud gryn dipyn gyda’i waith fel cipar. Wrth gwrs, roedd yn draddodiad, ac yn beth eithaf call bryd hynny i gyflogi ciperiaid nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad â’r fro y byddent yn gweithio ynddi. Doedd y cipar ddim yn debygol o adnabod neb yn y fro, ac felly, gallai fod yn hollol ddi-duedd yn ei ymdriniaeth â’r gwahanol bobl a fyddai’n debygol o botsio!
Mae disgrifiad byr o’r cipar i’w gael yn llyfr Thomas Phillips ar ardal ei febyd, sef “Bro Deiniol”. “Brodor a osodai fraw ar fechgyn y fro. Gwelaf ef o flaen fy llygad yn cerdded yr heolydd ac ar draws y caeau. Dyn corffol o daldra canolig; a gerwinder yn argraffedig ar ei wedd; côt ddu, trowsus ffustion, a chap ar ei ben; bwtsias am ei goesau, gwn dau faril ar ei fraich, a chi graenus wrth ei sodlau. Llawer tro y rhybuddiwyd ni ganddo i beidio ymyrryd â’r ‘game’.”
Ceir hefyd ddisgrifiad ganddo o ymweliad y cwn hela â’r gymdogaeth. “Ymwelai mintai cwn hela y Faenol a Choed Alun; arferiad poblogaidd y dyddiau hynny. Cyfarfyddent mewn lle canolog, a mawr y miri a’r brwdfrydedd ym mysg y plant. Gwelid y cwn hela yn cyniweirio o amgylch yr helwyr, a’r meirch trwsiadus yn ysgwyd eu pennau, fel pe yn sylweddoli eu tras uchelryw, ac fel pe yn ymhyfrydu yn y dydd a’i ddigwyddiadau. Nid llai y plant; dilynent y fintai dros y cloddiau, ar draws y meysydd, rhwng y twmpathau eithin, er cael golwg ar y pry yn codi, a chystadleuaeth y cwn yn hela’r ysgyfarnog a’r cadno i’r ddalfa.”
Brodor o Thetford yn Norfolk oedd John Salvage, ond does dim sicrwydd o ble deuai Sarah Ann ei wraig. Yn 1891 honnai iddi gael ei geni yn Barnet, ger Llundain. Yn 1901, ei phlwyf genedigol oedd Grantham, Swydd Lincoln! Ond mae’n amlwg i’r pâr priod gael gwaith ym Môn, oherwydd yno, ym mhlwyf Llanddyfnan y ganwyd Frances (tua 1881) a Henry (tua 1885). Yn fuan wedi geni Henry symudodd y teulu i Bontrhythallt, oherwydd ganwyd Isabel yn Llanddeiniolen ac yna Lizzie, y ferch ieuengaf tua 1890. Yn ddiweddarach, ganwyd Edith tua 1893.
Mae’n fwy na thebyg mai yn Ysgol Tan y Coed ym Mhenisa’rwaun y byddai’r plant wedi cael eu haddysg, ac mae’n ddiddorol meddwl y gallai fy nain fod wedi bod yn athrawes arnynt.
Erbyn 1911 dim ond Edith o’r plant oedd yn parhau gartref yn Ship gyda’i rhieni, ac erbyn hyn, mae’r tad yn honni y gallai siarad Cymraeg yn ogystal a Saesneg, ond nid felly y fam. Roedd hi’n parhau’n uniaith Saesneg. Roedd y plant erbyn hyn, wrth gwrs, yn gwbl ddwyieithog. Does dim hanes o unrhyw un o’r plant yn yr ardal wedyn, hyd y gwn i, ar wahan i Edith, a briododd ar ddiwedd 1920 gyda Robert G. Roberts. Mae posibilrwydd iddi hi fod wedi aros yn yr ardal, a bod rhai o’i phlant a’i disgynyddion yn dal i fyw yn y fro.